Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12
Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd
(45 munud)
Dogfennau
Ategol
Adolygiad
annibynnol o ymchwiliadau llifogydd
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20mya ar ffyrdd cyfyngedig
(45 munud)
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog
NNDM8350 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 29.8, er mwyn caniatáu i NNDM8349 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni
(30 munud)
NNDM8349 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ynni i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf 2023, a 01 Medi 2023 a 11 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
https://publications.parliament.uk/pa/bills/cbill/58-03/0340/220340.pdf.
Dogfennau
Ategol
Llythyr
gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y
Gweinidog Newid Hinsawdd
Ymateb Llywodraeth Cymru
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad at Lywodraeth y DU (Seasneg yn
unig)
Llythyr
gan Lywodraeth y DU at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM8342 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8341 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig
(15 munud)
NNDM8341 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bill Ardrethu Annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2023 a 1 Awst 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
https://bills.parliament.uk/bills/3442
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM8344 Lee Waters (Llanelli)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol , er mwyn caniatáu i NNDM8343 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Medi 2023.
9 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
(60 munud)
NNDM8343 Lee Waters (Llanelli)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).
Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mawrth 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2023.
Dogfennau
Ategol
Ymateb
Llywodraeth Cymru
10 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Medi 2023